Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 24 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 12:45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Leighton Andrews Peter Black Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Jenny Rathbone Rhodri Glyn Thomas Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jeff Cuthbert, Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru Amelia John, Llywodraeth Cymru Eleanor Marks, Llywodraeth Cymru John Griffiths, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Huw Brodie, Director of Strategic Planning & Equality Margaret Davies, Llywodraeth Cymru Jane Hutt, Gweinidog Cyllid |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sarah Beasley (Clerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeff Cuthbert, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i'r hyn a ganlyn:
· darparu gwybodaeth am werthuso Dechrau'n Deg ac ystadegau cysylltiedig;
· ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch ymrwymiad y Gweinidog blaenorol i gyhoeddi dangosyddion perfformiad ar gyfer y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf;
· darparu canllawiau manwl am y dull gwerthuso a ddefnyddir i fonitro'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf;
· gwybodaeth am y gwaith o graffu ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a sut y caiff ei rheoli;
· nodyn am y ffigurau a'r asesiad cyffredinol o effaith y gyllideb ar y trydydd sector;
· nodyn ar y camau y mae'r Gweinidog yn bwriadu eu cymryd o ran yr undebau credyd ar ôl i'r achos busnes gael ei ddadansoddi;
· nodyn ar werthuso'r canlyniadau o safbwynt gwerth am arian mewn perthynas â sefydliadau sy'n llwyddo i gael cyllid cyfalaf i gymunedau;
· nodyn yn manylu a fydd cyllid cyfalaf ar gael i safleoedd tramwy.
3 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar wariant ataliol uniongyrchol ac anuniongyrchol o ran rhai o'r rhaglenni sydd o fewn ei adran.
4 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Cyllid
4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r papur a gyflwynwyd i grŵp cynghorol y gyllideb ar gydraddoldeb gan Caroline Joll, y cynghorwr academaidd.
5 Papurau i’w nodi